Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Siambr Hywel - Tŷ Hywel

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 4 Mehefin 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15144


283

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. 

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Dechreuodd yr eitem am 15.06
Gofynnwyd cwestiwn 3. Tynnwyd cwestiynau 1-2 yn ôl.

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

</AI5>

<AI6>

5       Datganiadau 90 eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gwnaeth Jenny Rathbone ddatganiad ar 43 mlynedd ers trychineb y Syr Galahad (8 Mehefin).
Gwnaeth Julie Morgan ddatganiad ar Wythnos Gwirfoddolwyr (2 tan 8 Mehefin) a marwolaeth Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Graham Benfield
Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad ar Diwrnod Cefnforoedd y Byd (8 Mehefin 2025).

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar ddeiseb P-06-1476: Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

Dechreuodd yr eitem am 15.16
NDM8910 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol.’ a gasglodd 11,473 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8911 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 8 Mehefin 2025 yn nodi deng mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi dan fesurau arbennig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau ymchwiliad cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

33

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi'r gwelliannau sydd wedi’u gwneud hyd yma o dan y gyfundrefn mesurau arbennig a'r gwaith sydd ar ôl o hyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei wneud, fel y nodwyd yn yr adroddiad cynnydd dwy flynedd a gyhoeddwyd fis Mawrth.

Mesurau arbennig (lefel 5) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: adroddiad cynnydd blwyddyn 2 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

23

47

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 8 Mehefin 2025 yn nodi deng mlynedd ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi dan fesurau arbennig.

2.  Yn nodi'r gwelliannau sydd wedi’u gwneud hyd yma o dan y gyfundrefn mesurau arbennig a'r gwaith sydd ar ôl o hyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei wneud, fel y nodwyd yn yr adroddiad cynnydd dwy flynedd a gyhoeddwyd fis Mawrth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

23

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 16.58

</AI9>

<AI10>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.01

NDM8912 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Casnewydd - dinas ar i fyny yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.29

NDM8909 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cymru – ynni batri i bawb?

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.50

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>